PA BETH YW DYN? | WHAT IS MAN? |
Waldo Williams | trans. Tony Conran |
Beth yw byw? Cael neuadd fawr Rhwng cyfyng furiau. Beth yw adnabod? Cael un gwraidd Dan y canghennau. Beth yw credu? Gwarchod tref Nes dyfod derbyn. Beth yw maddau? Cael ffordd trwy'r drain At ochr hen elyn. Beth yw canu? Cael o'r creu Ei hen athrylith. Beth yw gweithio ond gwneud cân O'r coed a'r gwenith? Beth yw trefnu teyrnas? Crefft Sydd eto'n cropian. A'i harfogi? Rhoi'r cyllyll Yn llaw'r baban. Beth yw bod yn genedl? Dawn Yn nwfn y galon. Beth yw gwladgarwch? Cadw t ![]() Mewn cwmwl tystion. Beth yw'r byd i'r nerthol mawr? Cylch yn treiglo. Beth yw'r byd i blant y llawr? Crud yn siglo. |
To live, what is it? It's having A great hall between cramped walls. To know another, what's that? Having The same root under the branches. To believe, what is it? Guarding a town Until acceptance comes. Forgiveness, what's that? A way through thorns To an old enemy's side. Singing, what is it? The ancient Genius of the creation. What's work but making a song Of the trees and the wheat? To rule a kingdom, what's that? A craft That is crawling still. And to arm it? You put a knife In a baby's hand. Being a nation, what is it? A gift In the depths of the heart. Patriotism, what's that? Keeping house In a cloud of witnesses. What's the world to the strong? Hoop a-rolling. To the children of earth, what is it? A cradle rocking. |
Copyright © Estate of Waldo Williams (adm. Gwasg Gomer); trans. copyright © Tony Conran - publ. Gwasg Gomer
![]() |