BONES - I | ESGYRN - I |
Nigel Wells | trans. Caryl Lewis |
Take snout bone off squat giant, haired limb from vile woman, hingeless musculature (that of the domestic leech works well); add one grown belly button, a fold of blanched skin (the thinner the better but include any blemish or apparent wound); blend wild eye-lard with knuckle- oil in equal measure, drizzle over the other ingredients; roll (the bloodless dough) to form an inharmonious whole; decorate (sex and scar tissue make a nice arrangement), serve on a chilled landscape; thus some inexorable myth comes bowling along fact is ... |
Cymerwch asgwrn trwyn cawr bach crwn, cymal blewog wrth hen wrach, cyhyrau heb un colyn (gwnaiff rhai'r gelen gyffredin y tro); ychwanegwch un botwm bogel tew, tagell o groen wedi' i sgaldio (gorau po feinaf gan gynnwys, cofiwch, bob brycheuyn neu glwyf ar glawr); cyfunwch saim-y-llygad gwyllt gydag olew'r cogwrn am yn ail a'u tywallt dros y cynhwysion eraill; rholiwch (y toes di-waed) i greu cyfanwaith anghyflawn; addurnwch (croen craith a chyfathrach sy'n gweddu'n dda), gweiniwch pryd ar dirlun oer; felly daw rhyw chwedl i fowlio heibio'n ddidostur mae'n siŵr ... |
Copyright © Nigel Wells 2006; trans. copyright © Caryl Lewis 2006 - publ. Gomer Press
![]() |