SGITSO PICASSO | SCHIZO DE PICASSO | ||
Elin Llwyd Morgan | trans. by the poet | ||
Eistedd ar y foryd yn edrych ar y machlud yn rhegi ffawd a'r uwd o fyd
Dywedodd Picasso fod pob dynes naill ai'n dduwies neu'n slebog. Duwieslebog ydw i, yn derbyn pobl ddrwg a da i mewn i'mywyd yn llenwi bysys efo pobl neis a syrthio mewn cariad efo'r misffits. Mae'r machlud mor rhamantus wrth iddo dreiddio i dwll din yr ynys, ond dwi ar goll er gwaetha'r rhyw a'r rhamant a'r drygs a'r gwin sy'n cadw'r duwiau dicllon draw. Mae rhywbeth ar goll yn fy mywyd colledig, rhyw bechod dwi heb ei brofi, rhyw dduw dwi heb ei ddofi a'i wneud yn rhan annatod o gymhlethdod fy nghymeriad. Cyn i'r machlud fy sugno i grombil ynysig unigrwydd, estyn dy law i mi eto: mi fydda i'n dduwies ac yn slebog i ti, yn sgitso i Bicasso. |
Sitting by the inlet looking at the sunset cursing fate and the crazy mixed-up world that makes my heart retch. Picasso said that every woman is either a goddess or a slut. I am a goddesslut, welcoming good and bad folk into my life filling buses with those that are nice and falling in love with the misfits. The sunset is so romantic as it penetrates the island's arsehole, but I feel lost in spite of the sex and drugs and rock 'n roll that keep the killjoy gods at bay. Something is missing in my prodigal life, some sin I haven't proven, some god I haven't woven into the complex pattern of my make-up. Before the sunset sucks me into the beached bowels of loneliness, reach your hand out for me again: I'll be a goddess and a slut for you, a schizo for Picasso. |
Copyright © Elin Llwyd Morgan; trans. Copyright © the poet - publ. seren (Poetry Wales Press Ltd.)
![]() |