Y TEITHWYR NEWYDD | TRAVELLERS |
Donald Evans | trans. the poet (from Welsh) |
Lori at lori laes a rhyw bac o dri bws gyda hyn yn ymlusgo dod fore haf o'r rhos. Ein dau or hen dŷ yn eu gwylio'n nesáu'n galed, yna'n orsydyn yr hyn a arswydem rhagddo'n y bôn: un bws yn bwldagu'n flêr ar hanner y rhiw a'r cyfan yn 'stwyrian i stop yn deg o flaen yr hen dŷ. Confoi o doriad cenfaint, a lleng o walltiau llaid yn rhythu fel plant i beiriant y bws; malwennu yn ôl ac ymlaen a galw drwy'i gilydd yn swniog fursennaidd. Ffusto, nôl sbaner - tincera a'r injan eto'n petruso troi, ac yna rhagor o gynnwr' rhwygol yn dilyn, ymestyn mwy ar yr aros agos o hir. Rhyw fodau oer o fyd arall; ciwed ddi-ddal, ddiofal, ddi-hid; rhyw hen hil newydd, mor wahanol i ni. Gwylio'u llanast' o gil y llenni: criw'r drygiau a'r gwyliau gwanc; to o anwariaid duon â'u haroglau erch, ysbeilwyr gwlad yn stelcian â'u ffidlan ffair mor rhemp o hirymarhous. Tin yn yr injan rwth o'r diwedd, mwg yn cordeddu o'i pherfedd, o'r diwedd, yn dar a'r confoi'n dechrau cwynfan; dechrau refio, ymlafnio ymlaen, diolch i'r drefn, i fyny'r gefnen am rywle, waeth ble - i ba lain yn y byd, ond stryffaglyd i ffwrdd o'n daear ni i dir neb. |
Truck after ponderous truck and a pack of three buses suddenly trundling on a summer morning from the heath. Us two watching them, from the old kitchen, coming nearer; then, abruptly, what we dreaded most of all: one bus faltered clumsily half way up the hill, and the whole lot creaked to a halt in front of the farmhouse. A herdlike fleet; a grimy-haired mob gaping like kids into the bus's engine; shuffling back and forth bawling harshly at each other. Hammering, fetching a spanner - tinkering and the engine still jibbing, then more jagged agitation prolonging the long halt nearby. Peculiar beings from another world; a shiftless heedless rabble; a new breed, so different from us. We kept peering at their confusion round the curtains: addicts and festival followers, a generation of filthy savages with their stench, pillagers of the countryside, skulking and fiddling raucously, hanging around so menacingly. At last the rough engine ignited, tar-black smoke belching from its cavity, and the convoy stirred, revving, struggling forward, thank heavens, up the hill bound for somewhere, no matter where - any other spot, so long as they lumbered off to some no-man's land, away from our patch. |
Copyright © Donald Evans 1994 - publ. Cyhoeddiadau Barddas / Barddas Publications