NENTYDD IAITH | LANGUAGE STREAMS |
Donald Evans | trans. the poet (from Welsh) |
Drwy'n gwlad-fynwent deil nentydd Heb olew'n dew ar eu dydd A pharhad claer o ffrydiau Heb gramen cen yn eu cau. Miri sŵn fel murmur sêr ŵ I'w gwaelodion â gloywder, Ar raean loer eu hen wledd Yn fiwsig o gyfoesedd Mewn cwr lle mae haenau caeth Yn ddur uwchben cerddoriaeth. Geiriant yn grai dros gerrig, Geiriau bras yn groyw i'w brig; Yn bersain eu cytseiniaid, Yn gyndyn o wyn eu naid: Crych ar grych yn geirio iaith Yn frwd, a'i geirio'n frodwaith. Rhaid i ffrwd wrth rydau ffres A rhaeadrau wrth rodres; Hen ddyffryn wrth rewyn rhydd A dŵr hanes wrth drennydd O ymhwrdd lle ceir merddwr Yn rhydu ias geiriau'r dŵr. A rhith ddeillia brithyllod I'n gŵydd â distawrwydd, dod Yn wedd awel o ddüwch Yr afon, ymdreiddio'n drwch O'r dylif, ysbrydoliaeth Yn ddi-sŵn, llawenydd saeth A'u lliw ir yn lleueru Y dŵr fel goleuni du: Brithyllod annifodiant; Glendid cynhenid y nant Mewn cwm â'i sleim yn nacáu Un naid wâr o'r dyfnderau. A disglair yw gair eu gwŷdd: Goleuni ar geulennydd Ac adar wrthi'n gadwyn A'u nodau aur yn eu dwyn; Hen bant yn dirwyn o bell, Nwyd oerddwr o hen darddell: Hen daith cyn hyned â'r dydd Ac am honno frig mynydd. Ac o hwnnw dan gynnwr' O hyd y dônt, ffrydiau dŵr Yn geirio frwydro o'i frig Á gwawr ôd i'r llygredig Lle mae dydd newydd yn hau Asid ar ddyfroedd oesau. |
Through our moribund land unpolluted streams still run; glowing torrents not suffocated by garbage. Gliding like whispering stars, crystal-clear to their beds; a joy of living sound over shiny gravel in a dell where restrictions are oppressing language. They speak briskly over stones, clear rich-sounding words; harmonious consonants, tenacious and frisky bright: ruffled waters mouthing Welsh ardently, a pattern of words. A rivulet needs fresh currents and cascades must be exuberant; a weary valley needs some babbling brook, and ancient rivers a new thrust where stagnant pools blunt the water's piercing tongue. Trout present themselves silently, emerging ghostlike from the depths, darting profusely through the flow, delightful shafts of vivid tints illuminating the shallows with jet sparkle: a surviving breed; the stream's primal beauty in a valley where slime prevents a clean leap from the depths. The trees' vocabulary is alight, the banks luminous and a swarm of birds revelling in song; a familiar dingle winding from afar, passionate waters from the same spring: a course as old as daylight encircled by a mountain. And from it, vigorously they still come, plunging vociferously from the heights fresh as snow into pollution where modern skies hurl acid on ancient wells. |
Copyright © Donald Evans 1994 - publ. Cyhoeddiadau Barddas / Barddas Publications