I GETHIN MOELIFOR | TO GETHIN MOELIFOR* |
Donald Evans | trans. the poet (from Welsh) |
Ymlonciai'r ieir, ieir yr iaith  direidi ar rwydwaith Eu sgrowndj dros fuarth y sgrin Yn afiaith o gynefin. Wedyn Meg o frawddeg fraith Yn hir wenu'n yr heniaith Â'i chynffon yn ymlonni Law-yn-llaw â'i gefell hi. Y gwartheg yn brawddegu Yn hirfain dorf wen a du Heb un hast i frecwasta, Meniw amryliw yw'r ha'. Yna lliwio w+yn llywaeth Yn persain lefain am laeth ... A dau o gynffonnau ffel Yn bwyta eu dwy botel. Ansoddair yn disgleirio Yn haul our dan ei law o, A'r haf gwawn yn adferf gwyrdd: Clos o ddeilios meddalwyrdd. Rhoi'i fyd ar gyfrifiadur A'i fywyd oll i'w gof dur: Brwdfrydedd plentyn uniaith Yn troi'r sgrin yn egin iaith. |
The chickens wandered, Welsh birds, mischievously on the scrounge over the screen's farmyard, a gleeful haunt. Then Meg, a speckled sentence, smiling in his language; laughing with her tail; hand in hand with her twin. The cattle winding - a narrow black and white queue - casually to breakfast on summer's colourful menu. Afterwards, sketching pet lambs tinkle-bleating for milk ... two flailing tails devouring both bottles. A sunny adjective beaming under his fingers, and a green adverb of June: smooth-leaved enclosure. Painting his day on computer, his world with technology; the eager little monoglot prompting the screen to sprout Welsh. |
* After seeing him describing a typical farmyard morning on computer at Talgarreg Primary School.
Copyright © Donald Evans 1994 - publ. Cyhoeddiadau Barddas / Barddas Publications