Y DRAFFORDD | MOTORWAY |
Donald Evans | trans. the poet (from Welsh) |
Dam o waun dirion ei hwyneb a'r draffordd fel gordd ar ei gwên, ac arni hi ddydd a nos â gorthrymder y tery. Ond lathenni ohoni, a chusan y wawr yn cyffroi'r glog, â'r draenog am dro â hen hen dempo'r dydd, a thraidd hithau'r wahadden yn llechwraidd synhwyrgall o'i chyrion fel myfyrdod yn codi yn dyner o'r dyfnder dwys. Ac wedyn, eled dyn led dôl o ru'r taranu a'r lorïau trwm wyth olwyn sy'n morthwylio lle rheda hon, ymbwylla'r dŵr yn gynnwr' dan y gwern, ac o'r helyg arialus hed murmur y durtur ar daen i'r prynhawn fel ymhwedd gweddi, ac yn llewych y crych mud-dremia'r crychydd. Mi dorra'r moduron gysgodion y gwyll yn alanas â'u goleuni a rhwyga'u rwber dangnefedd y sêr yn ddi-saib, ond nid nepell o'r chwyrnellu mae'r gwdihŵ ym mrig dail yn llefaru'n gyfrin, a'r gylfinir yn offrymu'i fiwsig crynedig i'r nos. A deil eu rhu i lygru'r heol haul yn ynfyd, dwndwr y confoi ar hyd yr uffern ruthr o draffordd, ond drwy y byd hwnt i'r berth gwawr o eiddgarwch y fuwch a'r 'deryn o'u dihuno gan wên gynhanes. |
The motorway hurtles on over a tract of gentle moorland; daily, nightly, the oppression beats. But nearby, as the touch of dawn stirs the hill, the hedgehog ambles by light's ancient tempo, and the cautious mole slinks onto the verge like meditation arising from deep stillness. Then, a meadow's breadth from the eight-wheelers' bruising roar, the stream is absorbed in its bustling course under alders, and at noon from the vibrant willows the crooning of a turtle-dove diffuses solemnly, in the ripples flash the heron ponders. Headlights rip at the shadows and wheels shatter the silence of the stars, but close by the whizzing traffic the owl in the leaftop utters sacred mysteries, and the curlew devotes its trembling music to the night. They continue to pollute at daybreak, the convoy's furious snarl along a hell-bent road, yet the world beyond the hedge is suffused by the eager light of cows and birds awoken by the smile of a primeval dawn. |
Copyright © Donald Evans 1994 - publ. Cyhoeddiadau Barddas / Barddas Publications