CYPLAU | COUPLINGS |
Menna Elfyn | tr. Joseph P. Clancy |
Murddun yw byw.Ninnau , mynnwn ei drwsio At ddiddosrwydd. Gyda’n dwylo ei saernio At frig adeilad. Nes clymu o dano nenbren A wylia holl fynd a dod ein byw heb wybren. Dau rwymyn cam. Naddwyd hwy yn gyfan Yn gyffion cytun. Yn drawstiau llyfn a llydan. Cyfarfod dau. Dyna’r grefft a fagwn wrth amgau Dros ffram ddau gnawd. Gan asio’r llyfnus gyplau Sydd weithiau ‘n enfysu’n un. Ar ogwydd, uwch yr oerfyd Geubrennau’n chwiffio serch. Yna’n stond am ennyd. A’r to ,mor elwig, ar dro yn gwichian cariad - Wrth ddwrdio’r gwyfyn draw. I aros tro ei gennad. |
Life is a house in ruins. And we mean to fix it up And make it snug. With our hands we knock it into shape To the very top. Till beneath this we fasten a roofbeam That will watch the coming and going of our skyless life, Two crooked segments. They are fitted together, Timbers in concord. Smooth beams, and wide. Two in touch. That’s the craft we nurture in folding Doubled flesh on a frame. Conjoining the smooth couplings That sometimes arch into one. Aslant above a cold world, Hollow wood wafting passion. Then stock still for a time. And how clear cut the roof, creaking love at times, As it chides the worm to keep off and await its turn. |
Copyright © Menna Elfyn; trans. Copyright © Joseph P. Clancy - publ. Bloodaxe Books
![]() |