CELL ANGEL CELL ANGEL
Menna Elfyntr. Gillian Clarke
Mae'r celloedd Llwyd o bob tu iddo
yn ei ddal mewn esgyrn sy'n cuddio
am eiliad bwysau'r briwiau yno

ac eto onid dynol oedd yr angylion
ar dir Groeg a Phersia'n llonni dial
nid araf yn y Llyfr Mawr i ymrafael?

aeth ef â mi o'i gell, ef, angel, i'r neuadd fawr,
myfi, efe ac un piano grande,
allweddi'n aflonyddu wrth ddal fy llaw,

dan glo, dechreuodd ei gyngerdd i'r noddreg,
twinkle, twinkle, yn un donc ddyfal -
cyn methu'r esgyniad - at y llethrau duon.

Angel penffordd, heb bentan na mynegbyst
a'r nen wedi colli yn mherfedd y berdoneg
How 1 wonder what you are.

Daw'r seibiau a'r solo i ben. Aliweddi'n cloi,
can dwrn du y piano, yn grop. Disgordiau,
yn offeryn segur ar ei wyneb. Disgyniad

angel a'i angerdd i greu concerto
yn troi'n lled-fyw rhyw nodau o gryndod -
er byd mor ansoniarus. Canfod un tant persain.

***

Pes gallwn mi rown gwotâu ar angylion,
gwahardd sopranos, rhai seraphimaidd
o fan uchel eglwysig lle mae'r sêr yn seinio

eu pibau rhy rhwydd wrth euro'r corau,
yn fechgyn angylaidd, yn lleisiau gwydr mirain,
o'r marmor i'r eco. Rhy lân yw. Ni all duw fod yno,

yn fwy nag yma, yng nghell yr angel,
lle mae cordiau heb ddesgant,
eto rwyf ar fy nhraed o glai yn cymeradwyo

encôr, i ddyhead un cell angel
fel y gall chedeg yn ansylweddol
drwy furiau, heb gysgod, yn ysgafn,

adeiniog at gôr dwyfol y Gadeirlan -
Ond tu hwnt i'r drws mae criw yn paffio
chwerthin yn y cnewyllyn talcen gwydr,

Ac i bob Mihangel, Gabriel, Raphael,
mac cell sy'n eu cadw yn angylion cwymp,
a thry'r meidrolyn sy'n dal yr allwedd
yn ddim ond alaw cariad. Yn dduw heb agoriad.
Grey cells either side of him
keep safe the bones that hide
for a second their weight of pain

yet weren't the angels mortal,
Greek and Persian soil joyous with vengeance,
the Bible quick with quarrels?

He led me from his cell, this angel, to the hall,
him and me and a grand piano,
the door-keys restless in my hand.

Locked, he began a concert for his patron
twinkle, twinkle, then one violent tone -
before failing to ascend the black slopes

an angel on the road, homeless, lost
and the sky drowned in the piano's depths.
How I wonder what you are.

The pause ends the solo. Keys locked sharp
in the black fist of the piano. Discord
in unplayed instrument in his face. Descending

angel and his passionate concerto
turn suddenly to notes reverberating
through this musicless place. To reach for one fine string.

***

I would give quotas on angels,
ban seraphic sopranos
from high-church places where stars play

their easy flutes in gilded choirs
of angelic boys, their voices clean as glass
between the marble and the echoes. God's no more there

than here, in the angel cell
where chords ring without descant
where I rise to my feet of clay to applaud.

Encore to the dream of a cell angel
that he might fly bodiless
through walls, without shadow, light

winged to the great cathedral.
But behind this door the boy-gangs box
laughing through a chink in the brow of glass.

And for every Michael, Gabriel, Raphael,
there's a cell to keep him fallen
and the keeper of the keys
is only a love song. A god without power to unlock.

Copyright © Menna Elfyn; trans. Copyright © Gillian Clarke - publ. Bloodaxe Books


...buy this book
next
index
translator's next